Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol | External Affairs and Additional Legislation Committee

Y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd| Implications for Wales of Britain exiting the European Union

IOB 09   

Ymateb gan M-SParc

Evidence from M-SParc

 

Cyflwyniad:Mae Parc Gwyddoniaeth Menai yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a hwn fydd y Parc Gwyddoniaeth penodedig cyntaf yng Nghymru.   Ein nod yw cynnig llwyfan ar gyfer prosiectau ymchwil ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg er mwyn sefydlu busnesau arloesol a llwyddiannus drwy ddarparu swyddfeydd o'r radd flaenaf a chymorth busnes penodedig. Er na fydd Brexit yn effeithio arnom yn y tymor byr - cawsom sicrwydd bod ein cyllid yn ddiogel tan 2020 - rydym yn pryderu ynghylch faint o gyllid ymchwil lefel uchel fydd ar gael i rai o’n prosiectau ymchwil ar ôl Brexit. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym yn hapus i ddarparu tystiolaeth mewn ymateb i'r cwestiwn canlynol gan y Pwyllgor:

Beth ddylai’r brif flaenoriaeth fod i Gymru cyn y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi Erthygl 50 ar waith (sef y cam sy’n ysgogi'r broses ffurfiol o adael yr UE)?

Byddwn yn cyfyngu ein tystiolaeth i'r rhan hon o'r Ymchwiliad, o gofio nad oes gennym yr arbenigedd angenrheidiol i ymateb i ail ran cylch gwaith yr ymchwiliad yng nghyswllt y materion cyfreithiol rydych wedi’u nodi.

 

Cyllid Ymchwil:  Y lle amlwg i ddechrau wrth roi tystiolaeth yw drwy ystyried beth fydd goblygiadau methu â chael cyllid gan Gronfeydd Ymchwil Ewrop ar ôl 2020 i brosiectau ymchwil sy'n cael eu denu i'r parc gwyddoniaeth.   Yn y tymor byr, mae’n ymddangos y bydd prosiectau ymchwil yn dal yn gallu cael cyllid drwy'r rhaglen Cronfeydd Strwythurol a rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd (H2020).  Mae Trysorlys y DU wedi rhoi peth sicrwydd y bydd cyllid yn dal i fod ar gael hyd ddiwedd rownd gyllido 2014-20, hyd yn oed os bydd y DU yn gadael yr UE cyn 2020 https://www.gov.uk/government/news/chancellor-philip-hammond-guarantees-eu-funding-beyond-date-uk-leaves-the-eu

https://www.gov.uk/government/news/further-certainty-on-eu-funding-for-hundreds-of-british-projects

 

Y ddwy amod sydd ynghlwm â chael cyllid gan y Trysorlys yw bod yn rhaid i'r prosiectau wneud y canlynol:

·         Rhoi gwerth da am arian: a

·         Cyd-fynd â blaenoriaethau strategol gwladol.

Y rhagdybiaeth yw y bydd prosiectau yng Nghymru yn gydnaws â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru. Ym maes ymchwil, disgwylir i'r prosiectau gyd-fynd â'r Heriau Mawr a nodwyd yn Arloesi Cymru, Gwyddoniaeth i Gymru a'r Fframwaith Blaenoriaethau Economaidd.  

 

O fewn Rhaglen Cronfa Strwythurol ERDF ar gyfer Cymru, clustnodwyd cyllideb Ymchwil a Datblygu ar gyfer 2014-20.    Clustnodwyd €388m (27.5% o gronfeydd ERDF) ar gyfer Ymchwil ac Arloesi, ynghyd â chyllid cyfatebol (gan Lywodraeth Cymru yn bennaf) o €167.5m, sy’n gwneud buddsoddiad (gan gynnwys cyllid o ffynonellau eraill) o €630m i gyd gyda’i gilydd.  Mae Interreg  (Rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Iwerddon a Chymru) wedi clustnodi €32m o gyllid Blaenoriaeth 1 ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth. Wrth gwrs, nid yw hyn yn cynnwys y cyllid Ymchwil a Datblygu gan Innovate UK a Chynghorau Ymchwil y DU (RCUK).   Fodd bynnag, ar ôl i brosiectau sicrhau cyllid Ymchwil a Datblygu o dan y Cronfeydd Strwythurol, disgwylir i'r prosiectau hynny ddefnyddio'r cyllid hwnnw, a’r ymchwil sy’n deillio ohono, tuag at Innovate UK, RCUK a H2020.   Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am i Gymru gael cyfran uwch o'r cyllid ymchwil sydd ar gael o'r ffynonellau hyn. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn cael llai na 2% o gyllid Innovate UK, sef tua £10m. Yn 2014-15, derbyniodd Cymru £66m o gyllid RCUK<http://www.rcuk.ac.uk/about/aboutrcs/research-funding-across-the-uk/>.

 

Yn y tabl isod, a luniwyd ar sail gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, ceir amcangyfrif o faint o arian mae'r sector cyhoeddus yn ei wario ar Ymchwil a Datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd.  Rydym wedi codi gwybodaeth o Raglenni Gweithredol ERDF, cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 a'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Innovate UK ac RCUK. Rydym hefyd wedi defnyddio ffigur cyfartalog ar gyfer 6 mlynedd oes rhaglen y Gronfa Strwythurol, er bod y gwir wariant yn debygol o fod yn eithaf ‘anwastad’ dros y cyfnod hwnnw. Serch hynny, mae’r tabl yn dangos y byddai Cymru yn colli dros draean o'r gwariant ar Ymchwil a Datblygu pe na bai'r cyllid o'r Cronfeydd Strwythurol bellach ar gael ar ôl Brexit. 

 

TABL YN DANGOS GWARIANT BLYNYDDOL Y SECTOR CYHOEDDUS AR YMCHWIL A DATBLYGU YNG NGHYMRU

Ffynhonnell

Gwariant mewn £m

Canran

ERDF Gorllewin Cymru a'r Cymoedd a Dwyrain Cymru ar gyfartaledd

56

35%

Cyllid cyfatebol ar gyfartaledd (Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill)

24

15%

Innovate UK (2014-15)

10

6%

RCUK (2014-15)

66

41%

Blaenoriaeth 1 Interreg ar gyfartaledd

4.5

3%

Cyfanswm (Nodyn: Cyfradd gyfnewid £:€ 1:1.16 ar 17.11.16)

160.5

100%

 

 

Mae angen gwneud nifer o dybiaethau am yr hyn y gallai Cymru ei ddisgwyl gan gyllid ERDF ar ôl 2020 pe baem yn parhau i fod yn aelodau o'r UE.  Pe bai Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn gymwys i gael y gyfradd uchaf o gyllid ar ôl 2020, yna byddai’r swm y gallai Cymru ei dderbyn yn dibynnu ar faint cyllideb yr UE, pa gyfran a fyddai’n cael ei chlustnodi ar gyfer Ymchwil gan yr UE a'r blaenoriaethau gwario a nodir yn y Rhaglen Weithredol nesaf.  Fodd bynnag, o gofio ymrwymiad yr UE i Ymchwil a Datblygu ac Arloesi, mae’n debyg y byddai disgwyl i Gymru fuddsoddi cyfran debyg o leiaf o gyllid ar gyfer Ymchwil a Datblygu ag y mae wedi’i fuddsoddi yn y rownd bresennol.

 

Pe na bai Cymru yn gymwys i gael y lefel uchaf o gyllid ar ôl 2020, oherwydd cynnydd sylweddol yn y Cynnyrch Domestig Gros yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, yna mae’n debygol y byddem yn cael ‘cymorth pontio’ o dan drefniant a wnaed ym 1999 ar gyfer rhanbarthau nad oedd bellach yn gymwys i gael cyllid Amcan 1 ar ôl 2005.  Mae’n anodd mesur faint o gyllid a fyddai’n cael ei rhoi o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer y cyfnod 2021-2027, ond mae’n rhesymol tybio y byddai'r cyllid i gyd gyda’i gilydd tua 50% o'r swm a gafwyd yn 2014-2020.

 

Beth bynnag fydd y sefyllfa ar ôl 2020, drwy adael yr UE, byddai Cymru yn colli swm sylweddol o gyllid ar gyfer Ymchwil a Datblygu gan na fyddem yn gymwys i gael cyllid o dan y Cronfeydd Strwythurol na drwy Interreg, ni waeth beth fyddai lefelau’r Cynnyrch Domestig Gros yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd.  Gallai hyn fod gymaint £60.5m y flwyddyn ar gyfartaledd (gan ddefnyddio ffigurau cyfredol) neu £30.25m o dan drefniadau pontio. Byddai’n anodd iawn cael y swm hwn o Gyllideb Bloc Cymru o gofio mai'r swm sydd wedi'i glustnodi ar hyn o bryd ar gyfer Datblygu Economaidd yw £215m, ac o gofio bod y pwysau ar Gyllideb Bloc Cymru yn debygol o gynyddu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Heblaw am golli cyllid gan y Cronfeydd Strwythurol a Chronfeydd Interreg, wrth adael yr UE ni fydd Sefydliadau Addysg Uwch, Cyrff Ymchwil na chwmnïau yng Nghymru chwaith yn gallu cael cyllid o dan Gronfeydd Ymchwil yr UE.   Cronfeydd yw'r rhain y mae’n rhaid gwneud cais amdanynt i'r UE yn uniongyrchol (er enghraifft H2020), tra bo'r penderfyniadau ynghylch dyrannu Cronfeydd Strwythurol yn cael eu gwneud yng Nghymru.  Mae’n anodd rhagweld faint y byddai Cymru’n ei gael o dan raglen H2020, o gofio bod hon yn rhaglen mor gystadleuol a bod y gyfradd lwyddiant yn isel. Er hynny, byddem yn disgwyl cael mwy na'r €84m a gafodd Cymru o dan raglen FP7 2007-13 gynt.

 

Ar ben hynny, byddai'r effaith yn fwy pellgyrhaeddol na gostyngiad yn y gwariant ar gyfer Ymchwil a Datblygu. Un o'r prif fanteision o allu cael gafael ar gyllid ymchwil cronfeydd ymchwil yr UE yn uniongyrchol yw bod hyn yn golygu ein bod yn gallu cydweithio â Sefydliadau Addysg Uwch, Sefydliadau Ymchwil a Busnesau ledled Ewrop a thu hwnt. Nid yn unig y mae hyn yn ychwanegu at werth prosiectau, mae hefyd yn golygu ein bod yn gallu manteisio ar rai o'r sgiliau a'r gwaith ymchwil gorau yn Ewrop. Pe baem yn colli hyn ar ôl Brexit, byddai’n ergyd fawr i Gymru.  Mae nifer o wledydd y tu allan i'r UE yn gallu cael mynediad at gronfeydd ymchwil yr UE. Mae gan un deg tri o wledydd (gan gynnwys Norwy, Israel a'r Swistir) statws ‘Gwlad Gysylltiedig’ ac maent yn cyfrannu at gyllidebau Rhaglenni Fframwaith ar sail sy'n gymesur â’u Cynnyrch Domestig Gros.  Mae hyn yn golygu bod eu sefydliadau a’u hymchwilwyr yn gallu gwneud cais am brosiectau Horizon 2020 ar sail yr un statws â’r rheini o Aelod Wladwriaethau'r UE.   Mae statws Gwlad Gysylltiedig yn agored i wledydd sy'n aelodau o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) a'r gwledydd cyfredol sydd wedi gwneud cais i ymuno â'r UE.

 

Daw'r anawsterau sy’n wynebu cael cyllid ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn y dyfodol ar adeg pan mae buddsoddi mewn Arloesi ar ei lefel uchaf erioed yng  Nghymru. Yn ogystal â’r cyn Ganolfannau Technium sy’n dal i fodoli (er enghraifft Optic, Abertawe a Sir Benfro), mae buddsoddiadau newydd yn cael eu datblygu ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) (£20m), Canolfannau Arloesi Caerdydd a Semiconductor Catapult (£300m) a'r Campws Menter ac Arloesi newydd ar safle Gogerddan sy’n perthyn i Brifysgol Aberystwyth (£35m). Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn ffurfio eco system arloesi na welwyd mo’i bath yng Nghymru o'r blaen ac mae eu datblygiad yn y dyfodol mewn perygl.

 

Casgliad: Mae M-Sparc yn cynnig yr argymhellion canlynol i'r Pwyllgor eu hystyried:

 

1.       Mewn trafodaethau rhynglywodraethol am Brexit, dylai Llywodraeth Cymru alw ar Drysorlys y DU i glustnodi adnoddau ychwanegol ar gyfer Cymru ar ôl 2020 

·         sydd o leiaf yn cyfateb i’r swm y byddai Cymru wedi disgwyl ei gael o dan rownd 2021-2027 y Cronfeydd Strwythurol a’r Rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol (Interreg);  

·         sydd o leiaf yn cyfateb i'r cyllid a gafwyd o dan y rhaglen H2020 yn ystod 2014-2020

 

2.      Dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod Cymru yn parhau i gael mynediad at y lefel uchaf o gyllid gan yr UE ar ôl Brexit drwy gytuno ar drefniant tebyg i'r hyn sy'n bodoli â gwledydd EFTA.